Taith Yr Alban Mawrth 2026

7 Mawrth
Ar y 7fed o Fawrth roedd hi’r dydd Sadwrn brafia ers misoedd ac, ar ôl penwythnosau lawer o gerdded yn y glaw, roedd hi’n anodd peidio teimlo’n genfigennus o’r aelodau oedd yn mynd ar daith Moel Siabod. Ond, roedd y cyffro o feddwl am wythnos o fynydda gaeaf yn yr Alban yn gyrru ni fyny yr M6.
Dyma gyfarfod yn y Rod and Reel yn Crianlarich a chael croeso cynes unwaith eto. Roedd hwyliau da oherwydd fod yr Alban newydd guro Ffrainc ym mhencampwriaeth y chwe gwlad a wedyn cawsom hwyl yn cyd gefnogi yr Eidal yn curo Lloegr efo’r Albanwyr.
Y criw yn Crianlarich 2026 oedd Elen, Gethin, Andras, Ifan, Gareth, Dwynwen, Gerallt, Mark, Iwan a Gerwyn.
8 Mawrth
Ar ôl brecwast oedd ychydig yn hamddenol aeth Elen, Gethin, Andras, Ifan, Gareth, Dwynwen, Gerallt a Mark am y gogledd yn anelu am 4 Munro. Cychwyn ar ffordd Oban a chael antur cynta’r dydd yn croesi’r afon i fynd am gopa Beinn a’ Chleibh. Ymlaen wedyn dros gopaon Beinn Laoigh, Ben Oss a Beinn Dubhchraig. Cychwynodd y dydd yn gymylog ond mi ddaru’r tywydd wella fel aeth y diwrnod yn ei flaen. Erbyn copa Ben Oss cafwyd golygfeydd gwych o Beinn Laoigh a wedyn machlud godidog yn cochi Ben Mòr wrth gerdded allan am y ceir. Roedd wedi saith arnom yn gorffen y daith ac roedden wir angen y lampau pen. Pawb yn cytuno does dim cystal na cychwyn yr wythnos efo diwrnod 11 awr a 4 copa ond ella fasa brecwast dim cweit mor hamddenol di bod yn well.
Aeth Iwan a Gerwyn am gopaon Stob a’ Choire Odhair a Stob Ghabhar a chael diwrnod gwerth chweil yn yr eira tyfn ar y llethrau gogleddol.
9 Mawrth
Er y glaw yn Crianlarich, aeth pawb efo’i gilydd am Loch Earnhead i anelu am Ben Vorlich a Stuc a’ Chroin.
Yr rhwystr cynta oedd bod y ffordd hyd ochr Loch Earn wedi cau ond erbyn gyrru o amgylch y Loch roedd y glaw wedi peidio a phawb yn hapus.
Cafwyd amodau heriol ar Stuc a’ Chroin a phawb yn falch o gyrraedd y copa a hefyd o gyrraedd y ceir heb angen lampau ben.
10 Mawrth
Er bod y tywydd wedi troi yn fwy ansefydlog erbyn hyn doedd dim arafu ar y bagio Munros. Aeth Mark, Iwan, Gerallt, Dwynwen, Elen, Gareth, Gethin ac Andras am gopaon Beinn Eunaich a Beinn a’ Chochuill. Cafwyd amodau “dreich” fel mae nhw’n dweud yn yr Alban. Roedd y ffaith nad oedd Gerallt wedi tynnu yr un llun yn dweud y cyfan.
Ar ôl y siom fod y Ben Cruachan Inn wedi cau cafwyd croeso yn y Tyndrum Inn a chafodd Elen be oedd hi di breuddwydio amdano tra allan yn y gwynt a’r glaw sef “Hot Toddie”
Oherwydd ymrwymiadau gwaith cafodd Gerwyn ddiwrnod byrrach ond cafodd gopa Stob Binnein at ei gyfanswm yntau.
11 Mawrth
Dim trydan! Dyna oedd cyffro mawr y bore yn y gwesty ar ôl y storm dros nos. Felly, brecwast oer a dim panad wrth edrych ar y glaw tu allan.
Efo rhagolygon y tywydd yn gaddo gwynt a chawodydd trwm eira/glaw am y deuddydd nesa penderfynwyd mynd amdani heddiw oherwydd fod fory yn waeth byth. Y nod oedd trio canfod copaon oedd efo llwybrau yn mynd o’r gorllewin i gadw o’r gwynt.
Penderfynodd Gareth ac Ifan osgoi y copaon a chael dro braf i lawr y West Highland Way i’r Drovers Inn. Eitha distaw oedd hi yno ond roedd ein hen ffrind yr arth yn y kilt yno fel arfer.
Aeth Gethin, Andras, Elen, Gerallt, Dwynwen a Mark am Stùc an Lochain a Gerwyn ac Iwan am Meall nan Tarmachan.
Stop cynta’r bora oedd Co-Op Killin i gael coffi cyn anelu tua Glen Lyon a gadael Gerwyn ac Iwan ar fwlch Lowers lle roedd yr eirlaw yn dod lawr yn drwm.
Stùc an Lochain oedd y copa cynta i weddill y criw ac er cychwyn yn yr eirlaw daeth hi’n awyr las yn fuan yn y bore. Er i’r eirlaw beidio roedd y gwynt yn gryf iawn, roedd Elen yn hynod falch o gael Mark fel balast wrth groesi un bwlch.
Roedd un copa yn hen ddigon i’r rhan fwyaf ohonom a dyma anelu am y Falls of Dochart Inn i gyfarfod Gerwyn ac Iwan ond doedd Gethin ac Andras heb gael digon. Aethant yn eu blaenau am gopa Meall Buidhe yn y gwynt ac eira tra oedd y gweddill ohonom yn mwynhau peint neu hot toddie bach o flaen tanllwyth o dân yn y Falls of Dochart.
Gwobr Gethin ac Andras am eu hymdrechion oedd gweld eryr yn cylchu uwch eu pennau ar lethrau Meall Buidhe.
Boed yn un neu ddau gopa, pawb yn teimlo eu bod wedi cael antur go iawn ac wedi trechu’r tywydd.
12 Mawrth
Ar ôl ymdrechion ddoe, ac efo’r rhagolygon yn cynnwys rhybudd melyn am wynt cryf, penderfyniad hawdd oedd cael diwrnod o ymlacio.
Ar ôl brecwast hamddenol iawn aeth Gareth ac Ifan ar y trên am Glasgow a Gethin, Andras, Elen, Dwynwen, Gerallt a Mark ar y trên i’r cyfeiriad arall ac am Oban. Uchafbwynt y dydd yn Oban oedd hufen ia Iron Bru efo Tunnocks Tea Cake ar ei ben. Uchafbwynt Glasgow, yn ogystal a amgeueddfa Kelvingrove a thafarn Lismore, oedd sosej roll yn Greggs. Mae’n rhaid profi holl atyniadau’r Alban weithiau…
Doedd Iwan a Gerwyn ddim am eu trechu ac mi aetho nhw am gopa Meall Ghaordaidh. Wrth gychwyn yn hwyrach gafo nhw dywydd well na’r disgwyl a Munro arall i’r cyfanswm.
14 Mawrth
Ar gynffon storm y deuddydd cynt cafwyd trwch o eira dros nos a pawb yn deffro i Crianlarich yn wyn. Y drafodaeth dros frecwast oedd lle gawn ni fynd i chwarae yn yr eira a penderfynodd Dwynwen, Gerallt, Gareth,Mark, Gethin ac Andras fynd am Beinn Sgulaird.
Er cychwyn mewn cawod o genllysg cafwyd ysbeibiau heulog a golygfeydd godidog draw am Mull. Roedd cerdded dros tri copa Beinn Sgulaird yn heriol, eira dros ein cluniau mewn llefydd a gwynt eithriadol o gryf yn y bylchau. Elen yn falch i gael Mark a Gethin fel ballast heddiw.
Aeth Gerwyn a Iwan am An Caisteal ond gorfod troi yn ôl cyn y copa oherwydd fod y gwynt rhy gryf.
Am y West Highland Way aeth Ifan a chael dro braf o Tyndrum i Bridge of Orchy.
Gafwyd peint haeddiannol yn y Rod and Reel i orffen yr wythnos. Pawb yn falch iawn o’u hymdrechion a diweddglo gwych i wythnos arbennig o fynydda gaeaf a’r Alban ar ei ora.
Adroddiad gan Dwynwen Pennant.
Lluniau gan Elen ar FLICKR
